Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(105)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) (Tudalennau 3 - 5)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Buses

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Tâl Rhanbarthol (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Dyraniadau Cyfalaf (30 munud)

</AI4>

<AI5>

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Doha 2012 (30 munud)

</AI5>

<AI6>

6. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Trosedd a Llysoedd mewn perthynas â Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (15 munud) 

NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2012 yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.2(iii).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/crimeandcourts/documents.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
 

</AI6>

<AI7>

7. Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (60 munud) 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Ymyrryd mewn ysgolion a gynhelir – hysbysiadau a phwerau ymyrryd

61, 62

2. Canllawiau ar ymyrryd

54, 55, 56, 57, 58

3. Trefniadaeth ysgolion – gwneud a chymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt

2, 59, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 20, 18, 19, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32,

33, 34, 35, 44, 45, 46, 49, 53

 

4. Trefniadaeth ysgolion – sefydlu ysgolion sefydledig

63

 

5. Trefniadaeth ysgolion – cynigion ar ailstrwythuro addysg chweched dosbarth

64, 65, 73, 74, 75, 76, 80

 

6. Trefniadaeth ysgolion – rhesymoli lleoedd ysgol

66, 67, 68

 

7. Trefniadaeth ysgolion – darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig

69, 70, 71, 72

 

8. Cyfrifoldeb dros weithredu cynigion

 

36, 50, 51, 52

 

9. Trefniadaeth ysgolion – hysbysiad gan gorff llywodraethu ynghylch terfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol

37, 38, 39, 40, 41

 

10. Cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

1, 77, 42, 43

 

11. Brecwast am ddim mewn ysgolion

78, 79

 

12. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

60

 

13. Newidiadau rheoleiddiedig – rheoleiddio newidiadau i ddarpariaeth AAA

47, 48

Dogfennau Ategol
Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o welliannau wedi’u didoli

Grwpio Gwelliannau

</AI7>

<AI8>

8. Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (5 munud) 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig.

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

 

</AI8>

<AI9>

9. Dadl ar wneud y gorau o Bolisi Caffael Cymru (60 munud) 

NDM5132 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr effaith bositif y mae caffael cyhoeddus effeithiol yn ei chael ar economi Cymru;

2. Yn nodi Datganiad Polisi Caffael Cymru; a

3. Yn annog holl gyrff cyhoeddus Cymru i feithrin y gallu sy’n ofynnol i wneud y gorau o Bolisi Caffael Cymru.

Dogfen Ategol
Gellir dod o hyd i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru yn:
http://wales.gov.uk/docs//cabinetstatements/2012/121206procurementpolicycy.doc

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ac yn cydnabod y camau sylweddol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un'

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod rheolau caffael cyhoeddus yr UE yn rhy gaeth, ac y dylid eu llacio er mwyn cynorthwyo busnesau lleol i gael mwy o gontractau gan y Llywodraeth.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) roi gwybod yn glir i gymuned fusnes Cymru am unrhyw bolisïau caffael newydd; a

b) adolygu ei pholisïau caffael yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhwymedigaeth orfodol ar bob corff cyhoeddus i weithredu Polisi Caffael Cymru.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er enghraifft drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n ennill contractau caffael cyhoeddus yng Nghymru.

</AI9>

<AI10>

Cyfnod Pleidleisio

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>